GeezerVisonThe World Wide Web, restored to 800 pixels of glory. | ||||||||||||||||||
| Home|About|Gaming cabinet|Archives|How it works|Starter sites | ||||||||||||||||||
GeezerVison is showing cy.wikipedia.org — Cronos - Wicipedia
Ym mytholeg Roeg, arweinydd y Titaniaid, y genhedlaeth gyntaf o dduwiau, plant Gaia, y ddaear, ac Wranos yr awyr oedd Cronos neu Cronus (Hen Roeg: Κρόνος).'[1] Diorseddodd Cronos ei dad, ac ef oedd y rheolwr yn ystod yr Oes Aur, hyd nes iddo ef gael ei ddiorseddu gan ei feinion, Zews, Hades a Poseidon. Roedd yn cyfateb i Sadwrn yn y traddodiad Rhufeinig. Cysylltir ef â'r cnydau a'r cynhaeaf ac ag amser. Yn ôl un chwedl, roedd Wranos wedi cuddio plant ieuengaf Gaia, Hecatonchires a Seiclopsiaid, yn Tartarws, fel na allent weld y goleuni. Perswadiodd Gaia ei mab Cronos i ymosod ar Wranos â chryman, gan ei ysbaddu. Daeth Cronos â'i wraig Rhea yn rheolwyr. Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zews, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zews ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zews. Yn ôl rhai fersiynau, carcharwyd ef yn Tartarws; yn ôl Pindar daeth yn frenin Elysiwm. Cyfeiriadau
| ||||||||||||||||||
| You are visitor 01402503 — GeezerVison does not store the pages you look up. Best viewed with Netscape Navigator 4.7 or Internet Explorer 6 at 800×600. No cookies required. | ||||||||||||||||||